Date: Fri 11 Apr 2014

Bala Win in Aber

Aberystwyth 2 Bala Town 3

Bala Town’s dreams of securing seventh position and a guaranteed Play-Off position were enhanced on Friday evening as they won 3-2 at Aberystwyth.
In an evenly matched first half – the away side drew first blood through a Kieran Smith cracker after 25 minutes but the lead only lasted 8 minutes as Chris Venables netted from close range.
The visitors regained the lead after 66 minutes as an unmarked Stephen Brown headed confidently past Mike Lewis but with 7 minutes remaining Dave Morley conceded a penalty.
Venables confidently dispatched the spot-kick to claim his 22nd Corbett Sports WPL goal of the season.
However with 2 minutes remaining Morley redeemed himself from 3 yards to claim the important victory for the visitors.
Bala are now only 3 points behind the Seasiders and the coveted 7th position and have a game in hand over Aber. Ironically unless they overtake Aberystwyth – the Lakesiders will need Ian Hughes’s boys to win the Welsh Cup in order for them to secure a Play-Off place from 8th position.


Aberystwyth 2 Y Bala 3


Mae breuddwyd Y Bala o gyrraedd y gemau ail gyfle yn fyw ac yn iach wedi eu buddugoliaeth ar Goedlan y Parc nos Wener.
Mewn hanner cyntaf cystadleuol aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 25 munud diolch i chwip o ergyd gan Kieran Smith ond dim ond am 8 munud y parodd mantais Y Bala cyn i Chris Venables rwydo o chwe llath.
Aeth yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen wedi 66 munud wrth i Stephen Brown benio’n ddi-wrthwynebiad heibio Mike Lewis ond gyda 7 munud yn weddill ildiodd Dave Morley gic o’r smotyn. Doedd hi’n ddim syndod gweld Venables yn claddu’r gic i hawlio’i ail gôl ar hugain o’r tymor yn y Cynghrair.
Serch hynny gwnaeth Morley yn iawn am ei gam gyda dim ond 2 funud ar ôl pan rwydodd o dair llath i hawlio’r fuddugoliaeth bwysig hon i’w dîm.
Wedi’r canlyniad hwn mae’r Bala driphwynt yn unig y tu ôl i Aber sy’n y 7fed safle ond mae hogiau Maes Tegid wedi chwarae gêm yn llai na bechgyn Ian Hughes.
Yn eironig – os nad yw’r Bala’n llwyddo cipio’r 7fed safle ar draul Aberystwyth bydd y gogleddwyr yn gweddïo y bydd Aber yn ennill Cwpan Cymru – gan mai dyna’r unig ffordd arall y gallant hawlio’u lle yn y gemau ail-gyfle.